Cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y Celfyddydau ac Iechyd 21 Mehefin 2022
12.15 ar Sŵm.
Presennol
Jayne Bryant, Aelod o'r Senedd, Cadeirydd
Sally Lewis, Cyngor Celfyddydau Cymru
Kate Newman, Gofal Cymdeithasol Cymru
Angela Rogers, WAHWN
Nesta Lloyd-Jones, Cydffederasiwn GIG Cymru
Sarah Goodey, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Andrea Davies, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Esyllt George, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Lucy Bevan, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Katherine Lambert, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Melanie Wotton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Timothy Jenkins, Llywodraeth Cymru
Charlene Stagon, Tîm CDB, Nesta
Catherine Russell, Tîm CDB, Nesta
Sofia Vougioulalou, Y Lab, Prifysgol Caerdydd
Karin Diamond, Ail-Fyw
Joe Moore
Helen Williams, Cyngor Celfyddydau Cymru (cofnodion)
Ymddiheuriadau
Phil George, Cyngor Celfyddydau Cymru
Diane Hebb, Cyngor Celfyddydau Cymru
Prue Thimbleby (aelod o Gyngor Cyngor Celfyddydau Cymru)
Johan Skre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Yr Athro G Windle, Prifysgol Bangor
Simone Joslyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Iori Haughan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Sweansea
El Davis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Rebecca Cicero, Gofal Cymdeithasol Cymru
Croeso gan Jayne Bryant (JB)
Croesawodd JB bawb i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am ddod.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf, 7 Rhagfyr 2021
Cytunwyd bod y cofnodion yn rhai cywir.
Yr hyn a ddysgwn am ragnodi cymdeithasol – Rhaglen HARP
Soniodd Charlene Stagon a Catherine Russell o Nesta a Sofia Vougioulalou, Ymchwilydd HARP, am y prosiectau a sut y gweithient yn ogystal â’r argymhellion a’r ymchwil. Archwilient sut y gallai datblygiadau yn y celfyddydau gefnogi iechyd a lles a rhoi budd i bobl Cymru gan drechu anghydraddoldeb. Sefydlwyd partneriaethau cryf rhwng timau iechyd a chelfyddydol i weithredu’r syniadau gorau. Roedd dysgu, hyfforddi ac ymchwil yn elfennau allweddol. Maent yn cwmpasu 4 cam: braenaru’r tir, profi, buddsoddi a maint. Mae rhagor o wybodaeth yma
Soniodd Sofia am yr ymchwil a rhagnodi cymdeithasol. Mae'r holl ganfyddiadau i’w gweld yma Diolchwyd iddynt am eu cyflwyniad a chanmol y rhaglen. Dylai polisiwyr y Senedd gael gwybod am hyn. Rhydd JB wybod i’r Gweinidog, Dawn Bowden.
Cam gweithredu: JB i rannu canfyddiadau ac argymhellion HARP â Dawn Bowden
Llongyfarchodd SL y canlynol: Catherine, Charlene, Sofia, Jessica Clark a Rosie Dow, Arweinydd y Rhaglen, gan nodi bod y sector yn canmol y gwaith.
Prosiect Cytserau gan Ail-fyw
Soniodd Karin Diamond, y Cyfarwyddwr Artistig, am y sioe theatr ar-lein sy'n trafod heneiddio'n greadigol. Mae’r cast o bobl hŷn ledled Cymru yn amrywiol a rhwng 72 a 95 oed. Mae'n archwilio unigrwydd a stigma a sut y gall y celfyddydau helpu i ymdopi. Mae llawer o bobl hŷn yn byw mewn lleoedd diarffordd a nod y prosiect yw gwella eu bywyd. Gwelsom ddarnau o’r prosiect a welwyd hefyd yn ddiweddar gan gynulleidfa ryngwladol.
Nododd y gydnabyddiaeth fyd-eang i’r maes yng Nghymru a diolchodd i Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru am eu cymorth.
Soniodd JB am rym y gwaith a’i effaith ar bobl hŷn.
Cam gweithredu: HW i rannu’r darnau â’r Grŵp
Cwtch Creadigol
Soniodd Sally Lewis, Cyngor Celfyddydau Cymru, am ddatblygiadau’r Cwtsh Diwylliannol(adnoddau lles creadigol i staff y GIG a gofal cymdeithasol). Cymeradwyodd AaGIC y Cwtsh ac nawr mae’r gweithwyr iechyd galwedigaethol yn tynnu sylw ato ac mae’n ymddangos ar fewnrwyd y GIG. Mae yno gynnwys gan 34 artist a chomisiynir 15 arall yn fuan. Dros y misoedd nesaf cyhoeddwn y Cwtsh yn ehangach i'r gweithlu a’i werthuso. Gwelsom enghraifft o’r gwaith yno.
Diolchodd JB i Sally a chanmol y gwaith.
Blaenoriaethu ein nodau a'n targedau
Roedd Nesta Lloyd Jones am drafod sut y gall y grŵp ymgysylltu’n fwy ag aelodau o Bwyllgorau'r Senedd a'r Senedd ei hun yn y dyfodol. Nododd y bydd yn dda cael cydnabyddiaeth ehangach o’n gwaith gan Bwyllgorau’r Senedd. Awgrymodd gysylltu â'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a'r Pwyllgorau Iechyd a Chymdeithasol. Roedd JB hefyd yn awyddus i’n gwaith esgor ar ganlyniadau gan sôn am gyfoeth a chryfder y grŵp. Gofynnwyd i JB lunio llythyr at y Pwyllgorau Diwylliant ac Iechyd sy’n nodi’r posibiliadau am ragor o gydweithio cyn ein cyfarfod nesaf. Roedd JB hefyd am drafod y pwnc eto y tro nesaf.
Cam gweithredu: JB i lunio llythyr at y Pwyllgorau
Newyddion gan y partneriaid
Nodwyd y newyddion a gylchredwyd yn barod.
Unrhyw fater arall
Nid oedd. Diolchwyd i bawb am ddod ac am eu holl waith.